Cartref > Trap Algâu
Trap Algâu – Datrysiad cynaliadwy i broblem o ewtroffeiddio
Pam Cynaliadwy?
- Cynhyrchion cynaliadwy - Rydym yn tynnu algâu o byllau, llynoedd a phyllau naturiol trwy ddefnyddio cynhyrchion naturiol, diogel a bioddiraddadwy yn unig.
- Canlyniadau cynaliadwy - Mae ein system Trap Algâu yn troi dŵr llygredig i dŵr sy'n lân ac yn rhydd o'r llygryddion sy'n achosi ewtroffeiddio i ailadroedd.
- Cynaladwyedd hirdymor - Mae algâu sy'n cael ei 'ddal' a'i adfer gan ein proses yn gwneud compost gwych - gan ddychwelyd maetholion gwerthfawr i'r pridd.
Nodweddion Allweddol
Datrysiad parhaol
Mae ein fformwleiddiadau chitosan (yn dywed fel kai-toe-zan) yn gweithio fel 'magned' naturiol i algâu ac yr maetholion ffosffad a nitrad mewn dŵr sy'n achosi iddynt dyfu – aka ewtroffeiddio.
Gwella iechyd pridd
Yn wahanol i algicides cemegol sydd yn ladd algâu, nid yw Trap Algâu yn dinistrio'r algâu. Felly mae’n osgoi faetholion yn yr algâu gael eu rhyddhau. Rydym yn dal algâu yn 'gyfan’ gyda’r pwrpas o troi’r al ac yn canolbwyntio ar gynnyrch gwella iechyd pridd llawn maetholion, y gellir ei gompostio.
Dim Effaith ar yr Amgylcheddol
Ychydig o egni sydd ei angen ar Trap Algae ac mae'n raddadwy - o byllau gardd i gronfeydd dŵr. Mae ein hoffer yn sicrhau'r effaith leiaf posibl ar natur – mae bywyd gwyllt yn cael ei gadw a chynefinoedd yn cael eu cynnal.
Arfor
Rydym yn ddiolchgar am y £100,000 o gymorth a ddyfarnwyd ym mis Ionawr 2024 gan Gronfa Her ARFOR trwy Cyngor Gwynedd, sydd wedi ein galluogi i brofi a datblygu Trap Algâu fel gwasanaeth i glanhau pyllau a llynnoedd yn rhanbarth ARFOR, Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, a thy hwnt.
Nod cefnogaeth ARFOR yw cynhyrchu cyfoeth mewn ardaloedd sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd Cymraeg drwy greu cyfleoedd ar gyfer:
- Arloesi a menter newydd.
- Rolau cyflogaeth modern.
- Cadw cyfoeth.
Yn unol ag adnoddau lleol, y dirwedd a'r amgylchedd.