Cynhyrchion a Phrosesau Cynaliadwy
Yn creu cynhyrchion o safon uchel er budd iechyd, lles amgylcheddol a chymdeithasol, gan ddefnyddio technolegau naturiol a chynaliadwy
AmdanomTechnolegau Cynaliadwy
Trwy gydweithio gyda phrifysgolion ac arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant i nodi’r technolegau gorau sydd ar gael a thrwy fodelu a monitro effaith carbon y prosesau rydym yn eu datblygu, rydym yn ymdrechu i ddefnyddio technolegau sy’n amgylcheddol gynaliadwy yn unig.
Cynhyrchion o Ansawdd
Trwy ddefnyddio technolegau bio-broses glân ac anfalaen a thrwy ganolbwyntio ar ffrydiau sgil-gynhyrchion gweithgynhyrchu bwyd o ansawdd uchel fel adnodd, rydym yn datblygu ac yn gweithgynhyrchu cynhyrchion o ansawdd uchel gydag ymarferoldeb eithriadol.
Adnoddau Naturiol
Mae sgil-gynhyrchion gweithgynhyrchu bwyd yn adnodd naturiol sydd ddim yn cael ei defnyddio yn llawn. Uwchgylchu'r adnodd hwn i mewn i gynhyrchion gwerthadwy yn ddull mwy amgylcheddol gynaliadwy na gwaredu neu wneud i ynni.
Iechyd a Lles
Mae gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at fodolaeth fwy cynaliadwy nid yn unig yn gwella lles personol a chymdeithasol, mae llawer o'r cynhyrchion rydym yn eu datblygu hefyd yn fuddiol i iechyd.
Economi Gylchol
Rydym yn gweithio i hyrwyddo datblygiad Economi Gylchol, lle mae adnoddau’n cael eu cadw mewn defnydd mor hir a posib, a’r gwerth mwyaf posibl yn cael ei dynnu o’r adnoddau tra’u bod yn cael eu defnyddio, cyn adfer ac adfywio cynhyrchion a deunyddiau cyfansoddol ar ddiwedd eu bywyd defnyddiol.
Arloesedd Sero Net
Mae ein prosesau arloesol yn rhoi ystyriaeth ddyledus i ddileu gwastraff ac adfer yr ynni a'r deunyddiau sydd yn cael ei defnyddio. Mae ein prosesau yn dod yn fwy proffidiol ac effeithlon trwy ganolbwyntio ar leihau camau proses a logistaidd.
Creu Gwerth
Gall biotechnoleg drawsnewid bioddeunyddiau gwerth isel yn sylweddol ifewn i gynhyrchion sydd â phriodweddau gwahanol iawn a gwerthoedd marchnad terfynol o ddefnydd. Bydd cemegau arbenigol gwerth uchel o wastraff bwyd yn trawsnewid marchnadoedd yn y dyfodol.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn cydnabod y gall diffyg amrywiaeth yn y gweithle gyfyngu ar arloesi. Mae gweithle amrywiol yn dod â myrdd o dalent, creadigrwydd a phrofiad
Sut Rydym yn Gweithio
Atebion Cyfannol
Creu a datblygu technolegau cynaliadwy sy'n trawsnewid sgil-gynhyrchion gweithgynhyrchu yn cyfan ifewn i gynhyrchion gwerthadwy. Felly osgoi cynhyrchu ffynonellau newydd o wastraff a lleihau'r ôl troed carbon cyffredinol.
Mapio Ffyrdd Technoleg
Datblygu sgiliau Economi Gylchol, technolegau, cynhyrchion a chadwyni cyflenwi ar gyfer marchnadoedd heddiw ac yfory. Trwy nodi a mapio tueddiadau'r farchnad a nodi gofynion y dyfodol ar yr economi fyd-eang.
Rheoli Prosiect
Hanes cryf o reoli prosiectau ystwyth. Cymhwyso protocolau dylunio prosiect ac yrrir gan pwrpas, amcanion amserol wedi'u meintioli a magu partneriaethau cydweithredol sy'n lleihau risg ac yn cyflymu cyflawniad.