Ein Tîm

Cartref > Amdanom > Ein Tîm

Mae curiad calon Pennotec yn dîm profiadol o farchnatwyr, gwyddonwyr a pheirianwyr sy'n ymroddedig i ddod â chynhyrchion a thechnolegau newydd a cynaliadwy i'r farchnad.

5 aelod o staff pennotec yn sefyll oflaen wyrddni
Jonathan Hughes sefyll o flaen cefndir deiliog

Jonathan Hughes

Ar ôl gyrfa o 10 mlynedd hynod lwyddiannus mewn ymchwil Biotechnoleg Ddiwydiannol, enillodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Dr Jonathan Hughes ei MBA a symudodd i rolau marchnata strategol byd-eang yn rhai o gwmnïau cemegol mwyaf y byd. Creodd Jonathan Pennotec (Pennog Ltd) trwy gydnabod galw cynyddol y farchnad am atebion mwy cynaliadwy i’r amgylcheddol ac mae wedi adeiladu busnes Economi Gylchol llwyddiannus. Yn ‘môrwr’ yn y bôn, mae Jonathan yn hapusach yn pysgota a nofio o amgylch arfordir prydferth Gogledd Cymru.

Sue Dentley sefyll o flaen cefndir deiliog

Sue Dentley

Graddiodd Sue o Brifysgol Plymouth gyda BSc (Anrh) mewn Gwyddor yr Amgylchedd fel myfyriwr aeddfed ac ymunodd â Pennotec yn 2017 fel Gwyddonydd Amgylcheddol y cwmni. Mae hi wedi ennill profiad eang mewn rolau amrywiol o fewn y cwmni. Yn ddtablygu o fod yn Wyddonydd Labordy i’r Rheolwr Cynnyrch y cwmni, mae Sue yn gyfrifol am ymholiadau technegol a marchnata ein cynhyrchion a thechnolegau newydd. Mae Sue yn disgrifio ei ‘lle hapus’ yn bod allan yn ei fan wersylla hunan-adeiladedig, yn mwynhau mannau nofio gwyllt a thraethau o amgylch ei mamwlad newydd syfrdanol yng Ngogledd Cymru.

Lydia

Lydia Dawson Jones

Ar ôl ymuno â Pennotec yn 2020 cwblhaodd Lydia Brentisiaeth Gradd mewn Systemau Peirianneg Fecanyddol Gymhwysol. Fel Peiriannydd Prosiect Pennotec, mae Lydia wedi parhau i ehangu ei gwybodaeth beirianyddol trwy hyfforddiant ac addysg bellach mewn peirianneg gemegol a biocemegol. Yn ei hamser hamdden, mae Lydia yn mwynhau ffotograffiaeth bywyd gwyllt.

Mark Hughes sefyll o flaen cefndir deiliog

Mark Hughes

Ymunodd Technegydd Labordy Mark Hughes â Pennotec yn 2021 fel Cynorthwyydd Labordy a chwblhaodd ei brentisiaeth mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy yn 2022. Fel Prif Dechnegydd Labordy Pennotec mae Mark yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch yn y labordy ac arolygon amgylcheddol yn y maes. Mae wedi ennill profiad ac addysg wrth weithio yn Pennotec gan gynnwys DPP allanol mewn trin dŵr gwastraff ac archwiliadau ecolegol. Mae Mark ar ei hapusaf pan mae ar frig y copaon uchaf neu’n archwilio’n ddwfn o dan y ddaear mewn hen fwyngloddiau a chwareli yn rhanbarth Gogledd Cymru.

 

Evie Mainwaring

Evie Mainwaring

Graddiodd Evie efo MSc mewn Bioleg Forol o Mhrifysgol Bangor. Yn ystod ei phrosiect Meistr, datblygodd Evie dechnegau treulio i feintioli Microblastigau mewn gwaddodion Mangrove yn Ynysoedd y Philipinau. Ymunodd â Pennotec fel Cynorthwyydd Labordy yn 2024 i ddatblygu ei sgiliau labordy a chael profiad mewn gyrfa wyddonol. Mae Evie’n cael pleser o chwarae i griced Merched Gogledd Cymru a gwisgo siwt sych i ddarganfod rhyfeddodau’r amgylcheddau morol tanddwr.