Deunyddiau ar gyfer Tynnu Ffosffor

Cartref > Prosiectau > Amgylchedd > Deunyddiau ar gyfer Tynnu Ffosffor

Deunyddiau Cynaliadwy ar gyfer Tynnu Ffosfforws

Mae Pennotec wedi ddatblygu ddeunydd amsugno hollol cynaliadwy ar gyfer tynnu ffosfforws o ffrydiau dŵr a dŵr gwastraff. Paratowyd y deunydd amsugno o gregyn crancod – sgil-gynnyrch prosesu pysgod cregyn, a fyddai fel arall yn wastraff.

2 weithiwr yn gwisgo hi vis a helmed

Mae ffosfforws yn gemegyn gwrtaith pwysig mewn ffermio ac  yn ein bwyd a'i ddefnyddio yn ein bywydau domestig. Fodd bynnag, gall redeg oddi ar dir fferm ac mae'n bresennol yn ein dŵr gwastraff. Gall fod yn anodd ei dynnu'n llwyr o ddŵr gwastraff yn enwedig mewn gweithfeydd bach lleol i thrin dŵr gwastraff. Os yw ffosfforws yn mynd i mewn i afonydd, llynnoedd a nentydd gall achosi ewtroffigedd, proses fiolegol a all niweidio bywyd dyfrol ac achosi blymau algaidd a microbaidd gwenwynig yn ein llynnoedd a'n moroedd.

Mae'r gwaith ymchwil yn parhau, ac mae gan y busnes ddiddordeb mewn siarad â chwmnïau gwasanaethau dŵr er mwyn dangos y dechnoleg hon mewn lleoliadau bywyd go iawn. Dyma un enghraifft o'r dechnoleg y mae Pennotec yn ei datblygu i droi gwastraff yn gynhyrchion y gellir eu defnyddio, gan helpu i ddatblygu'r Economi Gylchol.


Pob prosiect