Cartref > Trap Algâu > Newyddion > Llyn Tŷ Newydd
Canolbwynt eiddo moethus Tŷ Newydd, ger Llannor, Gogledd Cymru yw'r llyn prydferth. Mae'r llyn yn gyfoethog efo planhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys pysgod, llyfantod a gweision neidr. Yn anffodus, yn ystod yr haf roedd algâu wedi casglu o gwmpas ochrau'r llyn, yn enwedig lle'r oedd llif y dŵr yn isel. Mewn pedwar diwrnod o driniaeth gyda'r system Trap Algae, adferwyd yr ardaloedd hyn o'r llyn i'w harddwch naturiol gwreiddiol.